Amdanom Ni

Cyfarfu’r partneriaid, Alun Thomas a Richard John, fel cyfreithwyr am y tro cyntaf yng nghwmni hirsefydledig W A Bowen a Griffiths, Aberystwyth. Ym 1974, gadawodd Alun Gaerdydd a dychwelyd adref i Aberystwyth gyda’r bwriad o arwain gwaith ymgyfreitha’r cwmni hwnnw, a thros yr 11 mlynedd nesaf, sefydlodd bractis ymgyfreitha a gwaith annadleuol preifat llwyddiannus.

Cwblhaodd Richard ei hyfforddiant yn nhref Medway Caint a dychwelodd i Aberystwyth ym mis Ebrill 1985 gyda’r bwriad o gynorthwyo Alun gyda gwaith ymgyfreitha W A Bowen a Griffiths. Gwnaeth y ddau gyfreithiwr gryn dipyn o waith ymgyfreitha sifil a throseddol. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd Alun ei benodi’n Ddirprwy Farnwr Rhanbarth, ac Alun a Richard oedd aelod sefydlwyr y Cynllun Cyfreithiwr ar Ddyletswydd lleol.

Roedd Alun wedi bod yn ystyried cychwyn practis ei hun am beth amser ac, yn Nhachwedd 1985, dyma’n union beth a wnaeth dan yr enw Alun P. Thomas. Ym Mai 1986, ymunodd W A Bowen a Griffiths â Morris Bates & Godwin, un o gwmnïau eraill y dref, ac o’r adeg hon tan fis Rhagfyr 1987, bu Richard yn gwneud gwaith ymgyfreitha o fewn y cwmni hwnnw mewn cydweithrediad â Harold Godwin, sydd bellach yn Farnwr Rhanbarth llawn amser.

Ymunodd Richard â chwmni Alun yn Rhagfyr 1987, yr un pryd ag y symudodd y cwmni i’w swyddfa yn 5 Stryd yr Undod, Aberystwyth. Dros y 7 blynedd nesaf, aeth rhestr gleientiaid preifat y cwmni o nerth i nerth a sefydlodd y cwmni gysylltiadau cryf gyda sefydliadau eraill y dref. Dechreuodd y cwmni ddenu llawer o gleientiaid corfforaethol, yn enwedig ym meysydd datblygu tai preswyl a thwristiaeth.

Fel brodorion o Aberystwyth, mae Alun a Richard wedi bod yn ymroddedig tu hwnt i’r gymuned, ac mae hyn yn ei hun wedi arwain at gynnydd yng nghleientiaid y cwmni. Diolch i allu Alun i siarad Cymraeg (ac yn wir, i gynnal gwrandawiadau trwy’r Gymraeg) mae nifer o siaradwyr Cymraeg wedi dewis y cwmni fel cyfreithwyr iddyn nhw ac mae’r cwmni wedi’i ymrwymo’n llawn at wasanaethu’r gymuned Gymraeg.
Ym 1995, symudodd y cwmni i’w swyddfeydd presennol, llawer mwy o faint, yn Adeilad Crynfryn, Stryd y Porth Bach, Aberystwyth ac yn 2001, ymunodd Helen Clow â’r cwmni, sef Gweithredwr Cyfreithiol gyda thros 20 mlynedd o brofiad. Mae Helen yn arbenigo mewn cyfraith teulu ac yn aelod o Resolution a phanel Cyfraith Teulu Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Alun Thomas a John oedd y cwmni cyntaf yn Aberystwyth i ennill Masnachfraint Cymorth Cyfreithiol a chadwasant y Fasnachfraint hon tan 2012, pan gafwyd gwared ar Gymorth Cyfreithiol ym mhob maes bron a bod, heblaw am feysydd bychan o fewn y gyfraith sifil. Yn ogystal â hyn, mae Alun Thomas a John ymhlith yr ychydig o gwmnïau yng Ngorllewin Cymru sy’n gymwys i fod yn aelodau o Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cyfraith y Cyfreithwyr. O ganlyniad i’r newidiadau hyn o fewn maes y gyfraith, mae Alun a Richard wedi bod yn treulio’r mwyafrif o’u hamser yn ddiweddar yn canolbwyntio ar waith trawsgludo a masnachol y cwmni. Mae’r cwmni wedi bod yn gysylltiedig â llawer o ddatblygiadau mawr Aberystwyth, gan gynnwys datblygu llety myfyrwyr y Brifysgol, adfer ac ailddatblygu harbwr Aberystwyth a nifer fawr o ystadau tai newydd yr ardal.