Alun P. Thomas LL.B. (Wales)

Ganwyd a magwyd Alun yn Aberystwyth ac enillodd ei radd yn y gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Cwblhaodd ei erthyglau gyda Meistri Gordon Williams yng Nghaerdydd, a bu’n gweithio fel cyfreithiwr yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i Aberystwyth ym 1974.

Rhwng 1974 ac 1985, bu Alun yn gweithio fel cyfreithiwr cynorthwyol i’r cwmni hirsefydledig, Meistri W.A. Bowen & Griffiths. Ym mis Tachwedd 1985, cychwynnodd bractis ei hun ac ym 1987, ymunodd Richard John â’i gwmni.

Yn ystod ei yrfa gyfreithiol, mae Alun wedi gwneud gwaith dadleuol ac annadleuol, gan gynghora yn Gymraeg a Saesneg. Bellach, mae’n arbenigo mewn trawsgludo domestig/masnachol ac yn cynrychioli unigolion a sefydliadau lleol. Yn ogystal â hyn, mae Alun yn arbenigo mewn ewyllysiau, profiant a gwaith ymddiriedolaethol.

Mae Alun yn siaradwr Cymraeg ac wedi bod yn Ddirprwy Farnwr Rhanbarth yn y Llys Sirol ac yn Farnwr Tribiwnlys rhan-amser am fwy na 25 mlynedd.

Mae’n golffiwr brwd, yn mwynhau cerddoriaeth a darllen a threulio amser gyda’i bedwar ŵyr ac wyres.