Helen F. Clow

Magwyd Helen yn Swydd Lincoln. Graddiodd ym Mhrifysgol East Anglia ac aeth ymlaen i ennill diploma i raddedigion yn Hull. Ym 1985, wedi iddi symud i Aberystwyth, ymunodd â Morris Bates a Godwin a chwblhaodd ei hyfforddiant fel gweithredwr cyfreithiol yn y cwmni hwnnw.

Ym 1995, cynorthwyodd Harold Godwin i sefydlu cwmni Godwins, lle bu’n arbenigo mewn cyfraith teulu, ymgyfreitha sifil, niwed personol a gwaith profiant.

Yn 2001, ymunodd Helen ag Alun Thomas a John gan arbenigo mewn cyfraith teulu. Mae’n Gymrawd o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol ac wedi bod yn aelod o Resolution a Phanel Cyfraith Teulu Cymdeithas y Cyfreithwyr ers iddi gymhwyso ym 1992.

Fel aelod o Resolution, mae Helen wedi’i ymrwymo i fynd i’r afael â materion teuluol mewn modd nad sy’n wrthdrawol. Mae’n ymwneud â phob agwedd ar ysgaru, achosion plant mewn cyfraith breifat, materion ariannol yn dilyn ysgariad neu wahaniad a dadleuon rhwng pobl sy’n byw gyda’i gilydd ac mae’n cynrychioli cleientiaid yn rheolaidd yn y Llys Sirol a’r Llys Achosion Teuluol.

Mae Helen yn gerddor brwd ac yn mwynhau chwarae mewn bandiau chwythbrennau a cherddorfeydd lleol. Mae’n aelod o’r Philomusica yn Aberystwyth ers tro byd.