Cyfraith Teulu

Mae tor-perthynas a’r problemau a ddaw yn sgil hyn o ran arian a phlant yn peri gofid i bawb sy’n gysylltiedig. Fel arbenigwyr teuluol, ein nod yw ceisio datrys y problemau hyn mewn modd sympathetig nad sy’n wrthdrawol. Rydym yn mynd ati mewn ffordd sensitif a gofalgar gan gynnig cyngor ac arweiniad ymarferol ar bob mater sy’n ymwneud â chyfraith teulu, gan gynnwys:

  • Ysgaru a gwahanu
  • Materion plant mewn cyfraith breifat, fel dadleuon ynghylch man preswyl a chysylltiad
  • Dadleuon ariannol a ddaw yn sgil bod yn briod neu yn cyd-fyw â rhywun
  • Trais domestig / gwaharddebau

Gyda chyfryngu teuluol yn cael ei ffafrio mwy a mwy dros achosion llys am ddatrys dadleuon teuluol, gallwn gynnig cymorth a chefnogaeth ledled y broses gyfryngu.

Mae ein cyfreithiwr teuluol yn aelod o Resolution, sefydliad cenedlaethol o gyfreithwyr teuluol sy’n arbenigo mewn ysgaru, gwahanu a phroblemau teuluol eraill mewn modd nad sy’n wrthdrawol. Gan hynny, rydym yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Resolution wrth fynd i’r afael â materion teuluol. Mae aelodau Resolution yn credu ei bod hi’n well mynd i’r afael â’r problemau a godir pan ddaw perthynas teuluol i ben mewn modd anymosodol, ac yn gweithredu mewn ffordd sensitif, adeiladol a chost-effeithiol.

Ar 1 Ebrill 2013, bydd pob nawdd cymorth cyfreithiol yn cael ei dynnu’n ôl o’r mwyafrif o achosion cyfraith teulu preifat. Gallwn gynnig un ffi benodedig ar gyfer ymgynghori a rhoi cyngor cychwynnol ac rydym yn fwy na bodlon trafod opsiynau talu er mwyn ceisio darparu cefnogaeth sydd wedi’i theilwra at anghenion yr unigolyn.

Mae’r bobl ganlynol yn gyfrifol am Cyfraith Teulu: