Prynu a Gwerthu Eich Cartref

Prynu tŷ yw’r buddsoddiad mwyaf y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei wneud ac, oherwydd hyn, mae angen cyfreithiwr y gallwch ymddiried ynddo – cyfreithiwr sy’n gweithio er eich budd chi. Ni yw un o’r ychydig gwmnïau yng Nghymru a Lloegr sydd wedi ennill Achrediad Cynllun Ansawdd Trawsgludo gan Gymdeithas y Cyfreithwyr.

“Mae’r Cynllun Ansawdd Trawsgludo’n darparu safon ansawdd cydnabyddedig ar gyfer gwaith trawsgludo preswyl.”

Cymdeithas y Cyfreithwyr
Mae ein gwasanaeth trawsgludo wedi’i lunio mewn modd sy’n ystyried y cleient. Mae gennym gyfreithwyr profiadol sy’n arbenigo mewn gwaith trawsgludo. Wrth i Aberystwyth brysur ddatblygu fel canolbwynt Ceredigion, rydym wedi gweithio ar ran prif ddatblygwyr yr ardal a thros gannoedd o unigolion. Felly, p’un ai’r ydych yn prynu eiddo hen neu newydd, ni yw’r cwmni perffaith i weithredu ar eich rhan. Fe wnawn ni’r holl drefniadau a’r gwaith gweinyddol er mwyn ei gwneud hi mor haws â phosibl i chi ddod yn berchenogion cyfreithiol.

Gallwn ni eich sicrhau chi y byddwn yn cysylltu â chi ar bob cam o’r broses brynu neu werthu a byddwn bob amser wrth law i ateb unrhyw gwestiynau dros y ffôn a thrwy e-bost.

Rydym wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth o safon i chi am gost resymol. Byddwn yn cynnig cyfweliad cyntaf am ddim, lle byddwn yn esbonio’r holl gamau yn y broses trawsgludo a’r gost. Gallwn ddarparu amcangyfrifon dros y ffôn a thrwy e-bost neu bost. I gael manylion, ffoniwch ni neu gyrrwch eich manylion atom trwy ein ffurflen ymholi gyfrinachol.

Gellir gweld proffiliau ein tîm trawsgludo ar ein tudalennau Proffil Cyfreithwyr.

 

Prynu Preswyl Rhydd-ddaliad

Pa mor hir fydd fy mhryniant yn ei gymryd?

Bydd faint o amser y bydd yn ei gymryd o’ch cynnig yn cael ei dderbyn hyd nes y gallwch symud i mewn i’ch tŷ yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Mae’r broses gyffredin yn cymryd rhwng 6 a 10 wythnos.

Gall fod yn gyflymach neu’n arafach, yn dibynnu ar y partïon yn y gadwyn. Er enghraifft, os ydych yn brynwr tro cyntaf, yn prynu eiddo newydd gyda morgais mewn egwyddor, gallai gymryd 6 wythnos. Fodd bynnag, os ydych yn prynu eiddo prydlesol sy’n gofyn am estyniad i’r les, gall hyn gymryd llawer mwy o amser, rhwng 2 a 3 mis. Mewn sefyllfa o’r fath, byddai taliadau ychwanegol yn berthnasol.

Camau o’r broses.

Mae’r union gamau sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo preswyl yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau. Dyma rai o’r camau allweddol:

  • Derbyn eich cyfarwyddiadau a rhoi cyngor dechreuol i chi
  • Gwirio bod cyllid yn ei le i ariannu pryniant a chysylltu â chyfreithwyr benthycwyr os oes angen.
  • Derbyn ac ystyried dogfennau’r contract
  • Cynnal chwiliadau.
  • Cael rhagor o ddogfennau cynllunio os oes angen.
  • Gwneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i gyfreithiwr y gwerthwr.
  • Rhoi cyngor i chi ar yr holl ddogfennau a gwybodaeth a dderbynnir.
  • Eich cynghori am amodau’r cynnig morgais
  • Anfon contract terfynol atoch i’w lofnodi.
  • Cytuno ar ddyddiad cwblhau (dyddiad y byddwch yn berchen ar yr eiddo)
  • Cyfnewid contractau (dyddiad yr ydych wedi ymrwymo’n gyfreithiol i’r trafodiad) ac yn eich hysbysu bod hyn wedi digwydd.
  • Trefnu i dderbyn yr holl arian bydd angen oddi wrth y benthyciwr a chi.
  • Cyflawni’r pryniant.
  • Delio â thalu Treth Stamp
  • Delio â chais i gofrestru yn y Gofrestrfa Tir

Ffioedd ar gyfer trawsgludo preswyl

Mae ein ffioedd yn cwmpasu’r holl waith sydd ei angen i gwblhau eich trafodiad, gan gynnwys delio â chofrestru yn y Gofrestrfa Tir a delio â thalu Treth Trafodiadau Tir (Treth Tir) os yw’r eiddo rydych yn dymuno ei brynu yng Nghymru neu Dreth Tir Treth Stamp (Treth Stamp) os yw’r eiddo yn Lloegr. Mae dolenni i gyfrifianellau Treth Tir/Treth Stamp ACC a HMRC i’w gweld isod

Mae ein ffi yn rhagdybio:

  • Mae hwn yn drafodiad safonol ac nad oes unrhyw faterion annisgwyl yn codi gan gynnwys er enghraifft (ond heb fod yn gyfyngedig i) ddiffyg teitl sydd angen gywiro cyn ei gwblhau neu baratoi dogfennau ychwanegol ategol i’r prif drafodiad.
  • Os yw’r eiddo yn brydlesol, rydym yn delio â throsglwyddo les sy’n bodoli eisoes ac nid yw’n rhoi les newydd.
  • Mae’r trafodiad yn cael ei gwblhau mewn modd amserol ac nid oes cymhlethdod annisgwyl yn codi.
  • Mae pob parti i’r trafodiad yn gydweithredol ac nid oes unrhyw oedi afresymol gan drydydd partïon sy’n darparu dogfennau.
  • Nid oes angen unrhyw bolisïau indemniad. Gall taliadau ychwanegol fod yn berthnasol os mae angen polisïau indemniad.

Ffioedd a thaliadau ‘Conveyancer’

Mae ein ffioedd ar gyfer trawsgludo preswyl yn tueddu i amrywio o rhwng 0.375% a 0.45% o’r pris yn amodol ar isafswm ffi o £550.00 a TAW. Mae trafodiadau lesddaliad yn tueddu i fod ar y pen uchaf tra bod trafodiad preswyl cofrestredig syml yn tueddu i fod ar y pen isaf. Pan fyddwn yn dechrau gweithio i chi, rydym yn rhoi amcangyfrif a chrynodeb manwl i chi o’r gwaith y byddwn yn ei wneud ar eich rhan.

Yn ogystal â’r ffioedd cyfreithiol, mae taliadau eraill hefyd yn daladwy. Mae’r rhain yn gostau sy’n daladwy i drydydd parti, fel darparwyr chwilio neu’r Gofrestrfa Tir. Taliadau nodweddiadol mewn gwerthiant yw ffi y Gofrestrfa Tir o £6.00 a ffioedd trosglwyddo arian electronig o £30.00 (gan gynnwys TAW) ar gyfer pob trosglwyddiad. Treuliau nodweddiadol mewn pryniant yw: –

  • Ffi Chwiliadau Lleol
  • Ffi Chwiliadau Dŵr a Draenio
  • Ffi’r Gofrestrfa Tir sy’n seiliedig ar raddfa sy’n dibynnu ar y pris prynu, p’un a yw’r tir wedi’i gofrestru neu a yw’r cyfan neu unrhyw ran o’r teitl yn cael ei brynu. Y ffi Gofrestrfa Tir isaf yw £20.00 a’r ffi uchaf (ar bryniant hyd at £1,000,000) yw £540.00.
  • Ffi trosglwyddo arian electronig

Preswyl Les ddaliad

  • Wrth brynu eiddo les ddaliad, fel arfer mae yna daliadau ychwanegol y bydd angen eu talu fel a ganlyn: –
  • Hysbysiad o ffi Trosglwyddo – Mae’r ffi hon ei nodi yn y les os yw’n daladwy. Yn aml mae’r ffi rhwng £75.00 – £125.00.
  • Ffi Hysbysiad o Dâl (os yw’r eiddo i gael ei forgeisio) – Mae’r ffi hon wedi’i nodi yn y les. Yn aml mae’r ffi rhwng £75.00 – £150.00.
  • Ffi gweithred y Cyfamod – Mae’r ffi hon yn cael ei ddarparu gan y cwmni rheoli ar gyfer yr eiddo a gall fod yn anodd ei amcangyfrif. Yn aml mae rhwng £50.00 – £100.00.
  • Ffi Tystysgrif Cydymffurfio – I’w gadarnhau ar ôl derbyn y les, fel y gall amrywio rhwng £50.00 a £100.00

Dylech hefyd fod yn ymwybodol bod rhent tir a thâl gwasanaeth yn debygol o fod yn berthnasol drwy gydol eich perchnogaeth o’r eiddo. Byddwn yn cadarnhau’r rhent tir a’r tâl gwasanaeth disgwyliedig cyn gynted ag y byddwn yn derbyn y wybodaeth hon.

Treth Tir neu Dreth Stamp

Mae hyn yn dibynnu ar bris prynu eich eiddo. Gallwch gyfrifo’r swm y bydd angen i chi ei dalu drwy ddefnyddio gwefan Awdurdod Cyllid Cymru https://lttcalculator.wra.gov.wales/ os yw’r eiddo wedi’i leoli yng Nghymru neu drwy ddefnyddio gwefan CThEM https://www.tax.service.gov.uk/calculate-stamp-duty-land-tax/ os yw’r eiddo wedi’i leoli yn Lloegr.

Gwerthu Preswyl Rhydd-ddaliad

Pa mor hir y bydd fy ngwerthiant yn ei gymryd?

Bydd faint o amser y bydd yn ei gymryd o’ch derbyn i gynnig eich prynwr nes bod eich gwerthiant wedi’i gwblhau yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi brynu eiddo arall y mae’n rhaid ei gyd-daro â’ch gwerthiant, neu gall eich prynwr hefyd werthu eu heiddo er mwyn prynu eich eiddo chi.

Mae’r broses gyffredin yn cymryd rhwng 6 a 10 wythnos. Gall fod yn gyflymach neu’n arafach, yn dibynnu ar y partïon yn y gadwyn. Er enghraifft, os ydych yn gwerthu i brynwr tro cyntaf gyda morgais mewn egwyddor, gallai gymryd 6 wythnos. Fodd bynnag, os ydych yn gwerthu eiddo prydlesol sy’n gofyn am estyniad i’r les, gall hyn gymryd llawer mwy o amser, rhwng 2 a 3 mis. Mewn sefyllfa o’r fath, byddai costau ychwanegol yn berthnasol.

Camau o’r broses

Mae’r union gamau sy’n gysylltiedig â gwerthu eiddo preswyl yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau. Dyma rai o’r camau allweddol:

  • Ystyried y gweithredoedd ar gyfer eich eiddo (os nad ydych wedi cofrestru) neu gofnodion eich Cofrestrfa Tir a’r dogfennau y cyfeirir atynt ynddo (os ydynt wedi’u cofrestru).
  • Trefnu i chi lenwi ffurflenni gwybodaeth am eiddo gan roi gwybodaeth fanwl am eich eiddo a gwirio eich atebion.
  • Paratoi telerau’r contract.Danfon y dogfennau at gyfreithwyr eich prynwr.
  • Ystyried a thrafod unrhyw ymholiadau am yr eiddo a godir gan gyfreithwyr eich prynwr.
  • Pan fydd pawb yn barod, a chytunwyd ar yr un dyddiad symud, contractau cyfnewid. Dyma’r cam yr ydych wedi ymrwymo i’r symud.
  • Gwneud y trefniadau cyfreithiol a’r gwiriadau cyn cwblhau.
  • Derbyn yr arian prynu o’ch gwerthiant.
  • Talu eich morgais.
  • Anfon unrhyw arian i chi.

Gwerthu Prydles Preswyl

Wrth werthu eiddo lesddaliad, mae rhai camau ychwanegol oherwydd cyfranogiad rhydd-ddeiliad a/neu gwmni rheoli. Fel arfer, mae’n rhaid cael pecynnau gwybodaeth ganddynt sy’n rhoi manylion am redeg yr adeilad neu’r cymhleth; cyfrifon tâl gwasanaeth ac unrhyw waith sylweddol a gynigir yn y dyfodol agos. Mae rhydd-ddeiliaid a chwmnïau rheoli yn codi tâl am ddarparu’r wybodaeth hyn sy’n tueddu i amrywio o rhwng £150.00 a £450.00. Mae angen cael y wybodaeth hyn yn gynnar er mwyn cael ei darparu i’ch prynwr tua’r adeg y caiff y dogfennau eraill eu hanfon at gyfreithiwr eich prynwr.