Mae Alun Thomas a John wedi bod yn cynnig gwasanaeth cyfreithiol yn Aberystwyth ers mwy na 35 mlynedd

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cyfreithiol i chi a’ch busnes. Rydym yn gwmni cyfeillgar sy’n deall ac yn falch iawn o’n gallu i ddarparu atebion syml a phragmatig i’ch anghenion cyfreithiol. Ni oedd y cwmni cyntaf yn Aberystwyth i ennill Masnachfraint Cymorth Cyfreithiol ac roeddem ni ymhlith y cyntaf i ddod yn aelodau o Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Bydd yna adegau lle y bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch, ac rydym yn deall y gall hyn beri peth gofid i lawer o bobl. Rydym ni’n cymryd yr amser i ddeall eich anghenion fel y gallwn roi’r cyngor a’r arweiniad mwyaf priodol i chi, yn unol â’ch amgylchiadau personol. P’un ai’r ydych yn prynu neu’n gwerthu tŷ, angen help i ddatrys anghydfod, yn ysgaru neu angen help i lunio ewyllys neu atwrneiaeth, bydd y gwasanaeth a gewch gan Alun Thomas a John yn cael ei addasu i ddiwallu’ch anghenion.

Mae nifer o ein cyfreithwyr yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac rydym yn medru cynghori fewn rhan fwyaf o faterion cyfreithiol yng Nghymraeg neu Saesneg.