Atwrneiaeth Arhosol
Dogfen gyfreithiol yw Atwrneiaeth Arhosol sy’n caniatáu i chi ddewis rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau ar eich rhan am bethau fel eich eiddo a’ch arian, eich iechyd a’ch lles, pan ddaw adeg yn y dyfodol pan na fyddwch am wneud y penderfyniadau hyn mwyach neu phan na fydd gennych chi’r galluedd meddyliol i’w gwneud. Ceir dau fath o atwrneiaeth arhosol: atwrneiaeth arhosol iechyd a lles ac atwrneiaeth arhosol materion ariannol.
Rhaid i atwrneiaeth arhosol gael ei chofrestru gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn y gellir ei hactifadu. Gall y trefniadau ymddangos yn gymhleth, ond gallwn ni eich arwain trwy’r holl broses, o drafod pa fath o atwrneiaeth arhosol fyddai’n briodol i chi i gwblhau’r cofrestriad gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, gyrrwch eich manylion atom trwy ein ffurflen ymholiad gyfrinachol neu ffoniwch ni.
Mae’r bobl ganlynol yn gyfrifol am Atwrneiaeth Arhosol: