Cyfraith Teulu
Mae tor-perthynas a’r problemau a ddaw yn sgil hyn o ran arian a phlant yn peri gofid i bawb sy’n gysylltiedig. Fel arbenigwyr teuluol, ein nod yw ceisio datrys y problemau hyn mewn modd sympathetig nad sy’n wrthdrawol. Rydym yn mynd ati mewn ffordd sensitif a gofalgar gan gynnig cyngor ac arweiniad ymarferol ar bob mater sy’n ymwneud â chyfraith teulu, gan gynnwys:
- Ysgaru a gwahanu
- Materion plant mewn cyfraith breifat, fel dadleuon ynghylch man preswyl a chysylltiad
- Dadleuon ariannol a ddaw yn sgil bod yn briod neu yn cyd-fyw â rhywun
- Trais domestig / gwaharddebau
Gyda chyfryngu teuluol yn cael ei ffafrio mwy a mwy dros achosion llys am ddatrys dadleuon teuluol, gallwn gynnig cymorth a chefnogaeth ledled y broses gyfryngu.
Mae ein cyfreithiwr teuluol yn aelod o Resolution, sefydliad cenedlaethol o gyfreithwyr teuluol sy’n arbenigo mewn ysgaru, gwahanu a phroblemau teuluol eraill mewn modd nad sy’n wrthdrawol. Gan hynny, rydym yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Resolution wrth fynd i’r afael â materion teuluol. Mae aelodau Resolution yn credu ei bod hi’n well mynd i’r afael â’r problemau a godir pan ddaw perthynas teuluol i ben mewn modd anymosodol, ac yn gweithredu mewn ffordd sensitif, adeiladol a chost-effeithiol.
Ar 1 Ebrill 2013, bydd pob nawdd cymorth cyfreithiol yn cael ei dynnu’n ôl o’r mwyafrif o achosion cyfraith teulu preifat. Gallwn gynnig un ffi benodedig ar gyfer ymgynghori a rhoi cyngor cychwynnol ac rydym yn fwy na bodlon trafod opsiynau talu er mwyn ceisio darparu cefnogaeth sydd wedi’i theilwra at anghenion yr unigolyn.