Richard S. John LL.B. (Southampton)

Cafodd  Richard  ei  eni  a’i  fagu  yn  Aberystwyth,  gan  fynychu  Ysgol  Ramadeg Ardwyn ac Ysgol Gyfun Penglais lle bu’n brif fachgen yn ei flwyddyn olaf. Ym 1981,  graddiodd  yn  y  gyfraith  o  Brifysgol  Southampton  ac  ar  ôl  pasio  ei arholiadau gyfreithwyr, ymgymerodd ag erthyglau yn Chatham, Kent.

Daeth Richard yn gyfreithiwr ym mis Mehefin 1985 a dychwelodd i Aberystwyth fel cyfreithiwr gyda W A Bowen & Griffiths. Arhosodd gyda’r cwmni hwnnw ar ôl ei gyfuno â Morris Bates & Godwin ond yna ymunodd ag Alun Thomas yn 1987. Daethant yn bartneriaid yn 1989.

Mae  cefndir  cyfreithiol  Richard  mewn  ymgyfreitha.  Mae  wedi  cynrychioli cleientiaid  mewn  treialon  troseddol  a  sifil,  achosion  teuluol  a  mewn  cwestau. Roedd  yn  aelod  o  Gymdeithas  Cyfreithwyr  Anafiadau  Personol  ac  roedd  yn gyfreithiwr panel Gwasanaeth Erlyn y Goron. Penodwyd Richard yn ddirprwy farnwr dosbarth (sifil) yn 2019 ac fe’i hawdurdodwyd i glywed achosion teuluol yn 2021.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Richard wedi ymgymryd â thrawsgludo preswyl  a  masnachol  cymhleth  ar  gyfer  unigolion  a  chwmnïau.  Bu’n  rhan  o gynllun ailddatblygu harbwr Aberystwyth, datblygiad Tesco yng nghanol y dref a’r rhan fwyaf o’r datblygiadau tai diweddar yn yr ardal.

Mae  Richard  wedi  bod  yn  llywodraethwr  mewn  sawl  ysgol  yn  yr  ardal  gan gynnwys cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gyfun Penglais. Bu’n aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth am 6 blynedd ac ar hyn o bryd mae’n ymddiriedolwr ar gyfer Hosbis yn y Cartref.

Prif ddiddordebau Richard yw cadw’n heini, chwarae pêl-droed a cherddoriaeth. Mae wedi ymddangos ar y teledu a’r radio yn trafod materion cyfreithiol ac wedi bod yn gyfarwyddwr cerddoriaeth ar gyfer nifer o ddarllediadau teledu a radio.