Amdanom Ni

Sefydlwyd cwmni Alun Thomas & John gan Alun Thomas a Richard John yn 1991 a daeth yn un o gwmnïau cyfreithiol blaenllaw Gorllewin Cymru, y cyntaf i gynnal Masnachfraint Cymorth Cyfreithiol yn Aberystwyth ac un o’r cyntaf i dderbyn achrediad y Gwasanaeth Ansawdd Trawsgludo.

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi gwasanaethu cleientiaid a sefydliadau yn ardal Gorllewin Cymru ac ymhellach i ffwrdd.  Yn ogystal â gweithredu dros lawer o unigolion a theuluoedd, mae’r cwmni wedi bod yn rhan o lawer o’r datblygiadau mawr yn Aberystwyth gan gynnwys datblygu llety myfyrwyr y Brifysgol, adfer ac ailddatblygu’r harbwr yn Aberystwyth a nifer o ystadau tai newydd yn yr ardal. Mae’r cwmni wedi ymrwymo’n gryf i’r gymuned ac yn darparu cyngor cyfreithiol yn Gymraeg a Saesneg.

Ym mis Mai 2024, ar ôl dros 53 mlynedd o ymarfer cyfreithiol, daeth Alun Thomas yn ymgynghorydd yn y cwmni a daeth Awel Jones yn bartner, ynghyd â Richard John. Mae ein tîm o gyfreithwyr yn parhau i wasanaethu’r gymuned.