Patrick Lewis
Cafodd Patrick ei eni a’i fagu yn Aberystwyth. Graddiodd gyda gradd yn y gyfraith o Brifysgol Caerdydd yn 2012 cyn mynd ymlaen i gwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol y Gyfraith ym Mryste yn 2013.
Ar ôl gorffen ei addysg gyfreithiol treuliodd Patrick nifer o flynyddoedd yn gweithio fel ‘paralegal’ i ddau gwmni cyfreithiol mawr yng Nghaerdydd a Bryste cyn iddo ddychwelyd i Aberystwyth i gwblhau ei gontract hyfforddi gyda chwmni lleol, Morris &Bates, gan gymhwyso fel cyfreithiwr yn 2019. Ymunodd ag Alun Thomas &John ym mis Chwefror 2022.
Mae Patrick yn arbenigio mewn trawsgludo preswyl a fasnachol ynghyd a paratoi ewyllysiau, profiant a phwerau atwrnai parhaol.
Yn ei amser sbar mae Patrick yn hoffi chwarae golff yn yr haf, teithio, darllen, gwneud ychydig o ‘DIY’ a helpu ei thad ar y fferm.