Roxanne White-Davies
Ganwyd Roxanne yn Buckinghamshire ac yn ddiweddarach symudodd gyda’i theulu i Sir Ceredigion, lle mynychodd Ysgol Uwchradd Tregaron. Yn ystod ei amser yno, dysgodd Cymraeg ac mae’n gallu cyfathrebu yn yr iaith.
Enillodd Roxanne radd Baglor mewn Cyfraith (Anrhydedd) o Brifysgol Aberystwyth yn 2021 ac mae ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE), gyda’r nod o gymhwyso fel cyfreithiwr erbyn 2028. Dechreuodd ei gyrfa gyfreithiol fel Ysgrifennydd/Cynorthwyydd Cyfreithiol mewn cwmni cyfreithiol lleol. Yn ystod ei hamser yn y brifysgol, bu’n weithgar yn ymwneud â chymuned yr Ysgol Gyfraith. Bu’n Ysgrifennydd Cymdeithas ‘Mooting’ yn ei hail flwyddyn ac rhannodd rôl y Llywydd yn ei blwyddyn olaf. Bu hefyd yn Mentôr cyd Adran, gan gynorthwyo cyd-ddisgyblion drwy eu hastudiaethau. Yn ogystal â’i gradd, hyfforddwyd gyda Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac fe gymhwysodd fel Oedolyn Priodol, gan ddarparu cymorth i bobl ifanc yn ystod gweithdrefnau’r heddlu.
Y tu allan i’w bywyd proffesiynol, mae Roxanne yn fam i ddwy ferch ifanc ac yn parhau i fod yn weithgar yn ei chymuned leol. Mae’n gwirfoddoli gyda “Ti a Fi”, yn aelod o’r comisiwn y Cylch, ac yn trefnu digwyddiadau dysgu awyr agored i blant. Yn ei hamser hamdden, mae’n mwynhau darllen, treulio amser yn yr awyr agored gyda’i theulu, a theithio.
